Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Llwynhelyg yn cael cadair trawma newydd gwerth £6,000 diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadair trawma arbenigol gwerth £6,000 i gleifion ar Ward 1 yn Ysbyty Llwynhelyg, diolch i roddion.

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Gemma Evans: “Dyma ddarn o offer arbenigol sy’n lledorwedd yn wastad, fel bod staff yn gallu llithro cleifion yn ysgafn o’u gwelyau. Yna gellir codi'r gadair i safle eistedd, fel y gall cleifion eistedd y tu allan i gefnogi eu lles a'u hannibyniaeth.

“Mae symud cleifion mor gynnar â phosibl yn rhoi’r canlyniad gorau ar gyfer adferiad ac adsefydlu, a all arwain at ryddhau’n gynt. Gellir symud y gadair gydag olwynion, sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd ac yn caniatáu i rai cleifion fynd y tu allan i wella eu hiechyd meddwl.

“Mae’r gadair wedi’i chydnabod, yn arbennig, fel budd i gleifion sy’n wynebu risg uchel iawn o dorri asgwrn oherwydd esgyrn brau ac sydd angen cyn lleied o drafod â llaw â phosibl.”

Yn y llun gyda'r gadair mae'r Ffisiotherapydd Scott Jakeman.

Dilynwch ni: