Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghorydd yn herio dreiathlon ar gyfer Gwasanaethau Canser yr Ysgyfaint

Yn y llun uchod: Jonathon Fisher-Black.

 

Mae Jonathan Fisher-Black, Ymgynghorydd Anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip, yn ymgymryd â Phenwythnos Cwrs Hir Cymru, Ironman Abertawe ac Ironman Cymru i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Canser yr Ysgyfaint.

Dywedodd Jonathan: “Fel Ymgynghorydd canser yr ysgyfaint, yn anffodus rwy’n gweld â’m llygaid fy hun yr effaith y gall y diagnosis hwn ei chael ar gleifion a’u teuluoedd. Yr allwedd i ganlyniadau da yw diagnosis cynnar, sy'n heriol iawn, o ystyried mai anaml y mae cleifion yn cael symptomau mewn clefyd cyfnod cynnar.

“Fel gwasanaeth, rydym yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth a hefyd cynyddu ein gallu i wneud diagnosis cynnar. Yn ddiweddar, mae cronfeydd elusennol wedi ein helpu i brynu offer broncosgopi newydd a fydd yn ein galluogi i berfformio biopsi ar diwmorau llai a phellach a gobeithio cyflawni diagnosis cynharach a thriniaeth iachaol ar gyfer mwy o gleifion. Mae'r arian hwn wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Bydd yr arian a godaf yn mynd i’r elusen i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhellach, cyflawni diagnosis cynharach a chefnogi cleifion trwy gydol eu taith canser yr ysgyfaint. Fel un o’r meddygon canser yr ysgyfaint yn y bwrdd iechyd mae gen i brofiad uniongyrchol o ba mor bwysig y gall hyn i gyd fod i gleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Jonathan gyda’i ddigwyddiadau sydd i ddod. Am her anhygoel.

“Mae cefnogaeth ein codwyr arian yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Cyfrannwch i godwr arian Jonathan yma: https://www.justgiving.com/fundraising/Jonathan-Fisher-Black

Dilynwch ni: