Neidio i'r prif gynnwy

Ward y plant yn derbyn dodrefn a chyfarpar newydd diolch i roddion hael

Yn y llun gwelir (Ch-Dd): Sally James, Cynorthwyydd Chwarae a Rachel Griffiths, Cynorthwyydd Chwarae.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu gwerth dros £8,000 o ddodrefn ac offer ar gyfer Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Mae pedwar set deledu newydd wedi'u prynu gyda chronfeydd elusennol, gan dynnu sylw cleifion ifanc sy'n derbyn gofal a thriniaeth.

Mae elusen y GIG hefyd wedi ariannu oergell ar gyfer ystafell orffwys y staff yng Nghilgerran, diolch i rodd gan grŵp Ukuleles Caerfyrddin.

Dywedodd Pat Evans, Aelod o Ukuleles Caerfyrddin: “Rydym yn grŵp hwyliog sy’n diddanu mewn lleoliadau amrywiol ond un o’n hoff weithgareddau yw canu a chodi arian at elusen.

“Mae’r rhodd o oergell i Ward Cilgerran yng Nglangwili yn ganlyniad haelioni ein gwrandawyr. Mae pobl Caerfyrddin a’i hymwelwyr yn hael iawn pan maent yn ein gweld yn chwarae mewn gwahanol leoliadau yn y dref a diolchwn i bawb sydd wedi ein cefnogi gan ganiatáu i roddion fel hyn fod yn bosibl. Diolch yn fawr i bawb.”

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Mae’n wych bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu oergell newydd a phedwar set deledu newydd ar gyfer Ward Cilgerran.

“Bydd yr offer newydd yn helpu gyda lles cleifion a staff, gan ei wneud yn fwy cyfforddus a deniadol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: