Neidio i'r prif gynnwy

Ward plant yn derbyn deunyddiau celf a chrefft diolch i gronfeydd elusennol

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Rachel Griffiths, Cynorthwyydd Chwarae a Sally James, Cynorthwyydd Chwarae.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu darparu gwerth dros £600 o ddeunyddiau gelf a chrefft i Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Ariannodd elusen y GIG baent cymysg, glud PVA, rholyn papur, amrywiaeth o siapiau a deunyddiau eraill ar gyfer ward y plant.

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu deunyddiau celf a chrefft newydd ar gyfer Ward Cilgerran.

“Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall y plant a’r bobl ifanc barhau ag agwedd o’u bywyd normal. Mae celf a chrefft yn helpu wrth iddynt fynd trwy driniaethau a gweithdrefnau yn yr ysbyty, gan leihau effeithiau ynysu, straen a phryder.

“Bydd y deunyddiau’n helpu i wneud y ward a’r holl fannau y mae’r plant yn mynd iddynt yn fwy cyfeillgar a hybu lles i bawb.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: