Neidio i'r prif gynnwy

Tîm rygbi ieuenctid yn cefnogi hyfforddwr trwy godi arian ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod: – Sherwyn Smith, Hyfforddwr a chlaf; Rhian Jones; Meredith Jenkins; Kath Watkins a Harvey Evans, Capten.

 

Mae tîm rygbi dan 18 oed clwb cymunedol Clwb Rygbi Llangennech wedi codi swm gwych o £2,127 ar gyfer yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

Mae hyfforddwr y tîm, Sherwyn Smith, yn cael triniaeth yn yr uned cemo ar hyn o bryd.

Dywedodd Harvey Evans, Capten y tîm ieuenctid: “Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn taith gerdded 5k yn ystod y Park Run ar 10 Chwefror 2024 ym Mharc Dŵr y Sandy, Llanelli gydag un o hyfforddwyr y tîm i ddangos cefnogaeth i Sherwyn wrth iddo gael triniaeth am ganser ar ôl cael brwydr debyg y llynedd.

“Roedden ni eisiau dangos ein gwerthfawrogiad i'r uned am y gofal da maen nhw'n ei ddarparu i Sherwyn. Diolch i drefnwyr a gwirfoddolwyr Park Run, pawb sy’n adnabod Sherwyn a’r rhai sy’n gysylltiedig â Chlwb Rygbi Llangennech a gyfrannodd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch i rai dan 18 Clwb Rygbi Llangennech am godi swm mor wych ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: