Neidio i'r prif gynnwy

Tim o chwech yn codi £4,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Trefnodd chwe codwr arian o Lanon noson bingo a bore coffi gan godi dros £4,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Y codwyr arian oedd Nia Wyn Harries, ei mam Janet Jones, ei nain Anita Jones a'i hen Fodryb Dilys Jones, ynghyd â Nia Roberts a'i modryb Mary Lewis.

Dywedodd Nia Wyn Harries, 31: “Mae gennym ni gyd berthnasau sydd wedi cael canser ac mae rhai ohonyn nhw wedi cael cemotherapi yn Ysbyty Bronglais. Roedden ni eisiau codi ychydig o arian i’r Apêl am uned ddydd cemotherapi newydd i ddweud diolch am y gofal.

“Mae canser yn effeithio ar bawb a gyda nifer y cleifion yn cynyddu mae’n bwysig bod gennym ni uned bwrpasol gyda mwy o breifatrwydd ac un sy’n lleol.”

“Fe wnaethon ni gynnal noson bingo a bore coffi yn nhafarn y White Swan, sy’n cael ei rhedeg gan fy mrawd, Dylan Jones. Roeddent yn ddigwyddiadau cymunedol gwych a chawsom gefnogaeth wych,” ychwanegodd Nia, sy’n Swyddog Gweinyddol i’r Mudiad Meithrin.

“Rydym am ddiolch i bawb a helpodd gyda’r ddau ddigwyddiad, y rhai a gyfrannodd wobrau raffl, y bobl a ddaeth draw a’r White Swan am ei gynnal.”

Cynhaliodd Ysgol Llanon hefyd wasanaeth diolchgarwch y cynhaeaf gan gyfrannu £150 o’r digwyddiad hwnnw i’r cyfanswm.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i grŵp codi arian Llanon ac Ysgol Llanon am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at yr Apêl.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

Dilynwch ni: