Neidio i'r prif gynnwy

Tîm N2S yn beicio hyd Cymru i godi arian ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Olivia Evans; Charlotte Evans; Sharon Groom, CNS Oncoleg; Kath Watkins, Prif Nyrs yr Uned; Marie Williams, Uwch Brif Nyrs, Neil O’Brien, Tîm Beicio N2S; Trish Butchers, Tîm Beicio N2S; Emma Williams, Clerc yr Uned Cemotherapi; Meredith Jenkins, Uwch Brif Nyrs a Jennifer Hernandez, Uwch Brif Nyrs.

 

Mae Tîm N2S wedi codi dros £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip er cof am Wayne Evans.

Mae Tîm N2S yn grŵp o dros 13 o ffrindiau triathlon a chyn gydweithwyr Wayne a fu farw.

Beiciodd y grŵp o ogledd i dde Cymru, Llanelli i Fangor, yn ystod gŵyl banc mis Awst.

Fe wnaeth Wayne godi arian yn angerddol ar gyfer yr uned cemotherapi fel diolch am y gofal rhagorol a gafodd, hyd yn oed cwblhau ras 5k Cymru ar y Penwythnos Cwrs Hir gyda thîm o deulu a ffrindiau yn gynharach yr haf hwn.

Dywedodd Sara O’Brien, aelod o Dîm N2S: “Roedd y daith yn gyfnod emosiynol iawn gan i ni golli Wayne bythefnos cyn yr her.

“Er ein bod eisoes wedi ein hysgogi’n fawr i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi, roedd colli Wayne ar yr adeg hon yn golygu ein bod hyd yn oed yn fwy penderfynol gan ein bod am anrhydeddu ei enw.

“Mae’r uned wedi cyffwrdd â chymaint o’n bywydau, roedd yn teimlo’n hynod werth chweil codi arian at achos mor deilwng.

“Rydym yn hynod falch o’n cyflawniad. Roedd yn daith heriol iawn, yn feddyliol ac yn gorfforol. Roedd yna fryniau i’w dringo, a doedd y tywydd ddim yn ddelfrydol, ond roedd ein hysbryd tîm a’n penderfyniad yn drech na ni drwy’r amser.

“Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd, ein tîm cefnogi cerbydau, ein noddwyr gwych

a phawb a ddaeth i'n croesawy ar y llinell derfyn. Ni fyddem wedi gallu ei wneud heboch chi."

Dywedodd Marie Williams, Prif Nyrs yn yr Uned Dydd Cemotherapi: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, daethom i adnabod Wayne a’i deulu mor dda. Byddai bob amser yn dod i mewn i'r uned gyda gwên ar ei wyneb ni waeth sut y teimlai.

“Rydym mor ddiolchgar am ymdrechion codi arian Sara O’Brien, holl Dîm Beicio N2S a Thîm Evans, ac am yr holl roddion rydym wedi’u derbyn. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i brynu gwely triniaeth newydd ar gyfer yr uned a fydd yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol gan ein cleifion. Diolch yn fawr iawn."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: