Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Evans i herio 10k Llanelli

Yn y llun uchod, gwelir: Teulu Evans.

 

Mae Tîm Evans yn ymgymryd â ras 10k Llanelli i godi arian ar gyfer Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Ysbyty Tywysog Philip.

Yn cael ei gynnal ar 25 Chwefror 2024, mae Ras 10k a Hanner Marathon Llanelli yn cynnig rhediad golygfaol ar hyd llwybr arfordirol hardd y Mileniwm.

Mae chwe aelod o Dîm Evans - Charlotte Evans, Finley Ellar, Sian Davies, Rhiannon Daniel, Amanda Jenkins a Nathan Phillips - yn rhedeg 10k Llanelli er cof am Wayne Evans.

Fe wnaeth Wayne, a fu farw llynedd, godi arian yn angerddol ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip i ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd, a chwblhaodd ras 5k Cymru ar y Penwythnos Cwrs Hir gyda thîm o deulu a ffrindiau ym mis Gorffennaf 2023.

Dywedodd Charlotte Evans, gwraig Wayne: “Ar ddydd Sul 25 Chwefror, byddaf i ac ychydig o ffrindiau yn rhedeg ras 10k Llanelli fel Tîm Evans ac i Dîm Hywel Dda er cof am fy ngŵr, Wayne Evans.

“Rydym yn codi arian ar gyfer Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Ysbyty Tywysog Phillip. Mae’r hosbis yn darparu gofal lliniarol hanfodol a chymorth i gleifion a’u teuluoedd.

“Roedd Wayne yn glaf mewnol am ychydig ddyddiau dim ond wythnos cyn i ni ei golli yn anffodus. Roedd yr uned a’r tîm lliniarol yn anhygoel. Mae’r tîm lliniarol wedi cadw mewn cysylltiad â ni fel teulu yn ystod ac ers hynny.

“Os hoffech chi ein cefnogi ni trwy gyfrannu cyn lleied â £1, fe fydden ni’n dragwyddol ddiolchgar. Neu os hoffech ymuno â ni fel Tîm Evans a Thîm Hywel Dda, yna gwnewch hynny."

Dywedodd Nathan Phillips, ffrind Wayne: “Mae Hywel Dda wedi fy helpu cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys y driniaeth ardderchog ar gyfer y ffrind gorau y gallech ofyn amdano: Wayne Evans, ac yna’n ddiweddar genedigaeth fy merch newydd-anedig Isabella.

“Fe wnes i addo i Wayne na fyddwn i'n rhoi'r gorau i hyfforddi a rasio, ac roedden ni'n arfer gwneud hynny gyda'n gilydd erioed. Rwyf hefyd am barhau â’r hyn yr oedd bob amser yn ei wneud, ac roedd hynny’n helpu eraill ac yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl, bob amser mewn ffordd gadarnhaol.”

Dywedodd Finley Ellar, cariad merch Wayne: “Mae’r 10k hwn yn bersonol i mi wrth i mi edrych i fyny at Wayne, roedd yn ysbrydoliaeth i mi, ni roddodd y gorau iddi ym myd chwaraeon ac iechyd.

“Mae cymryd rhan yn y 10k yn dangos cymaint yr oedd yn ei olygu i mi, ac mae'n dangos y gred y gallaf gyflawni unrhyw beth os byddaf yn rhoi fy meddwl ato, sef yr hyn a roddodd i mi. Er iddo ein gadael, ni fydd byth yn cael ei anghofio.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn anfon diolch enfawr a phob lwc i Dîm Evans sydd wedi codi arian yn ddiflino ar gyfer gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gefnogi 10k Team Evans trwy gyfrannu yma:
https://hyweldda.enthuse.com/pf/team-evans

Dilynwch ni: