Neidio i'r prif gynnwy

Tîm arlwyo ysbyty yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau codi arian er cof am gyd-weithiwr

Yn y llun: Tîm arlwyo Ysbyty'r Tywysog Philip.

 

Mae tîm arlwyo Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli wedi dechrau ar gyfres o ddigwyddiadau a heriau codi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi ac Uned Iechyd Meddwl Bryngofal, a hynny er cof am gyd-weithiwr annwyl, Karen Hartnell.

Ymunodd Karen â’r tîm blaen y tŷ yn 2017 ond, yn drist iawn, bu farw ym mis Tachwedd 2022.

Mae aelodau o’r tîm eisoes wedi cymryd rhan mewn Trochfa Walrws Gŵyl San Steffan, yn ras 10 cilometr Llanelli, ac mewn her yn Zip World, Gogledd Cymru, lle aeth tri aelod o’r tîm ar weiren wib gyflymaf y byd.

Mae'r digwyddiadau codi arian sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2024 yn cynnwys cerdded i Ben y Fan, noson bingo a phlymio o’r awyr.

Dywedodd y Rheolwr Arlwyo, Tracey Evans: “Mae aelodau’r tîm arlwyo yn Ysbyty’r Tywysog Philip wedi addo cefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ystod y flwyddyn nesaf a'u rhoi eu hunain ar brawf er cof am ein cyd-weithiwr a'n ffrind hardd, Karen Hartnell.

“Rydym yn addo codi arian i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac i Uned Iechyd Meddwl Bryngofal. Dyma ddwy uned sydd wedi cefnogi sawl aelod o’n tîm arlwyo yn ystod y 18 mis diwethaf, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am hynny.

“Ein huchelgais yw codi swm clodwiw o arian ar gyfer ein hunedau dethol, a gwthio ein ffiniau ein hunain ar yr un pryd a symud o'n parth cysurus!

“Dylai unrhyw un sy’n dymuno cefnogi ein hantur trwy ein noddi neu wneud cyfraniad siarad ag aelod o’r tîm arlwyo. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae arnom eisiau dweud diolch yn fawr a phob dymuniad da i’r tîm arlwyo – am ffordd wych o gofio cyd-weithiwr hoffus a gwneud gwahaniaeth i’n gwasanaethau lleol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Dilynwch ni: