Yn y llun uchod: Dr Emma Christopher, Prif Nyrs Jennifer Hernandez, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Clare Rees, Uwch Brif Nyrs, Marie Williams, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Gemma Thomas, Dietegydd Miriam Brown, Rhiannon Ling (merch), Beryl Thomas (gwraig), Helen James (merch), Lynwen Jones (merch) a Gareth Thomas (mab).
Mae teulu Alun Rees Thomas, perchennog A&B Tool Hire, wedi codi £9,245 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip er cof amdano.
Yn anffodus bu farw Alun ar 30 Medi 2024 ar ôl brwydr hir gyda chanser.
Cododd teulu Alun yr arian drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian megis raffl yn Sioe Frenhinol Cymru, rhoddion angladd a’u taith tractorau blynyddol a gynhaliwyd yr wythnos ar ôl iddo farw.
Dywedodd Lynwen Jones, merch Alun: “Dymuniad olaf Alun oedd i’w daith tractorau blynyddol barhau o’i gartref, Bryndolau, Ffarmers, Llanwrda ar ddydd Sul 6ed Hydref 2024.
“Fel teulu, roedden ni wedi ein syfrdanu gyda’r gefnogaeth a ddangoswyd. Daeth dros 170 o dractorau i gymryd rhan yn y daith a llawer o genfnogwyr yn cefnogi'r digwyddiad er cof am Alun.
“Er ein bod ni’n gwybod fel teulu am ddyn busnes llwyddiannus oedd ein tad a’n gŵr cariadus, roedd y swm a godwyd yn dyst i ba mor boblogaidd a hoffus oedd e mewn gwirionedd. Mae wedi rhoi cysur mawr inni weld y rhoddion a godwyd ac i allu bodloni dymuniad olaf Alun i allu cyflwyno’r sieciau hyn i elusennau mor anhygoel a fu’n gymorth iddo drwy gydol ei ddyddiau olaf.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn arbennig iawn i deulu Alun am godi swm mor anhygoel er cof amdano.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”