Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn codi dros £500 ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod

Yn y llun uchod: Sandra Pegram, Rheolwr Ward gyda’r tîm SCBU team a Thea, Carl a Faith.

 

Mae Thea Meek-Wilson a Carl Wilson wedi codi £550 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Cododd Thea a Carl yr arian ar ôl gofyn i deulu a ffrindiau am roddion i’r uned yn lle anrhegion ar gyfer pen-blwydd cyntaf eu merch.

Ganed Faith Meek-Wilson chwe wythnos yn gynamserol ym mis Tachwedd 2022 a threuliodd wythnos yn y SCBU.

Dywedodd Thea: “Mae Faith yn hynod annwyl i ni, ac i’n teulu i gyd. Nid oeddem yn gallu beichiogi felly roedd Faith yn ganlyniad IVF. Roeddem yn meddwl bod ein holl heriau drosodd ac yn edrych ymlaen at ei dyddiad geni ym mis Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, ar 9 Tachwedd es i i gyfnod esgor cyn-tymor a chyrhaeddodd Faith chwe wythnos yn gynnar.

“Cafodd ei throsglwyddo ar unwaith i’r SCBU. Nid oeddem yn siŵr pa gymhlethdodau i'w disgwyl gyda babi cynamserol. Doedd gennym ni ddim syniad beth i'w wneud na'i feddwl, roedden ni mor bryderus. Roedd tîm SCBU yn gofalu amdanom ni i gyd, gan setlo unrhyw nerfau oedd gennym ni, ateb unrhyw gwestiynau, cynnig llawer o gyngor a chefnogaeth a rhoi sicrwydd i ni fod Faith yn mynd i fod yn iawn.

“Drwy gydol y cyfnod hwn, roedd tîm cyfan y SCBU yn hollol anhygoel, ac ni allem fod wedi gofyn am fwy o ofal a chymorth, dim byd yn ormod, dim cwestiwn yn rhy wirion, roedd pawb mor gyfeillgar a gofalgar.

“Rydym yn sicr, er bod Faith yn ymladdwr, y llwyddodd i ddod adref yn gynt oherwydd y gofal a gafodd yn yr SCBU. Roedd hyn yn golygu cymaint i ni ar y pryd ac nid ydym erioed wedi anghofio pa mor dda y gofalwyd amdanom i gyd yno.

“O ganlyniad, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i ddangos ein gwerthfawrogiad a rhoi rhywbeth yn ôl. Roeddem am sicrhau y gallem helpu'r tîm anhygoel hwn i barhau i gefnogi a gofalu am fabanod a rhieni yn y ffordd yr oeddent yn gofalu amdanom ac yn ein cefnogi. Ni fyddwn byth yn anghofio ein hamser yn yr uned a byddwn yn dragwyddol ddiolchgar i bawb.

“Diolch i’n holl deulu a ffrindiau am ein cefnogi bob amser ac i’r tîm SCBU am eu holl waith caled a gofal anhygoel.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn anfon diolch enfawr i Thea a Carl am eu rhodd garedig.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: