Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn codi dros £2,000 i Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun, o’r chwith i’r dde:  Claire Dawes, Allgymorth Gofal Critigol; Marie James, ICU; Farah Nizar, ICU; Zinnia Fisher, ICU; Seren Cole, Codwr Arian; Lauren Watkins, ACDU; Anita Pilot, ACDU; Cathy Bland, SDEC; Katy Coates, ACDU aElle Blayne, ACDU

 

Mae Seren Cole a’i theulu wedi codi swm gwych o £2,640 i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ar ôl mynd yn ddifrifol wael ym mis Rhagfyr 2022 a chael triniaeth ar gyfer niwmonia, streptococws A, ffliw a sepsis, sefydlodd Seren dudalen GoFundMe gyda’i theulu i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU), yr Uned Penderfyniadau Clinigol Acíwt (ACDU) a Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dywedodd Seren: “Gofal parhaus ac ymroddiad y staff yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yw’r rheswm fy mod yn dal yma heddiw, ac ni allai fynegi dyfnder ein diolch.

“Gobeithio y bydd yr arian a’r rhoddion yn mynd tuag at ddarparu rhywfaint o seibiant haeddiannol i staff a chysur i gleifion.”

Dywedodd Katy Coates, Uwch Brif Nyrs ar ACDU: “Ar ran yr holl unedau hoffem ddiolch yn fawr iawn i Seren a’i theulu a’i ffrindiau am godi arian a phrynu eitemau i gefnogi cleifion a staff ar yr unedau. Roedd yn garedig iawn ohonoch ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gennym ni i gyd.”

Dilynwch ni: