Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn codi dros £2,000 i Uned Gofal Arbennig i Fabanod Sir Gaerfyrddin

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Michelle Dobbin, Allie Partridge, Jonathan a Ronnie Thomas, Katie Thomas a Catrin Johns

 

Mae Katie a Jonathan Thomas wedi codi swm gwych o £2,080 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.


Trefnodd Katie a Jonathan Raffl Dinbych-y-pysgod gyda gwobrau gwych i gefnogi'r uned.

Treuliodd Ronnie, mab Katie a Jonathan, bythefnos yn SCBU pan gafodd ei eni. Roedd y pâr eisiau codi arian i ddiolch am y gofal eithriadol a gafodd.

Dywedodd Katie: “Ganwyd Ronnie bedair wythnos yn gynnar ac roedd yn anymatebol. Treuliodd ei Nadolig cyntaf yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod.

"Roeddem mor ddiolchgar am y gofal a gafodd Ronnie yn yr uned. Roeddem yn teimlo bod angen i ni wneud rhywbeth i ddangos ein gwerthfawrogiad.

“Hoffem ddiolch i bawb oedd yn ein cefnogi i godi’r arian, boed hynny’n prynu neu’n helpu i werthu tocynnau ar gyfer ein raffl. Ni fyddem wedi gallu codi swm mor wych heboch chi.

“Hoffem hefyd ddweud diolch yn fawr i’r holl staff sy’n gweithio yn yr uned. Ni fyddai Ronnie gyda ni heddiw oni bai i chi. Rydych chi i gyd yn wirioneddol anhygoel."

Dywedodd Sandra Pengram, Rheolwr Uned Gofal Arbennig Babanod: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod. Bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i brofiad ein cleifion a’u teuluoedd. Diolch enfawr oddi wrthym ni i gyd!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Katie a Jonathan am eu gwaith codi arian anhygoel i SCBU.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: