Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn codi dros £1,900 i Uned Gofal Arbennig Babanod Glangwili

Yn y llun uchod: Claire Rumble, Swyddog Codi Arian, Elusennau Iechyd Hywel Dda; Mari Llywellyn Jones, Nyrs; Benn Williams; Isla-Marie Williams; Kelly-Marie Williams; Melody Williams a Jackie McConville, Prif Nyrs.

 

Mae Kelly-Marie a Benn Williams wedi codi dros £1,900 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Sefydlodd Kelly-Marie a Ben dudalen GoFundMe a dechrau codi arian trwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol, gan annog ffrindiau a theulu i rannu eu stori a rhoi.

Cafodd eu merch Melody, ei rhuthro i’r SCBU yn fuan ar ôl ei geni ym mis Medi 2023 ac arhosodd yno am bythefnos.

Dywedodd Kelly-Marie: “Cafodd Melody ei geni yn 37 wythnos heb syrffactydd yn ei hysgyfaint, felly nid oedd yn gallu anadlu’n iawn ar ei phen ei hun.

“Diolch byth am y gwaith anhygoel a’r driniaeth achub bywyd a roddir gan yr arwyr sy’n gweithio yn yr uned. Roeddent i gyd yn anhygoel, yn ofalgar, yn weithgar ac yn dosturiol.

“Roedden ni eisiau codi arian i’r uned a helpu i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i wneud y gwaith rhagorol maen nhw’n ei wneud. Rydym yn ddiolchgar am byth am y driniaeth a’r gofal a roddwyd i’n merch fach.”

Dywedodd Bethan Osmundsen, Uwch Nyrs Newydd-anedig: “Rydym wedi ein syfrdanu gan haelioni’r rhieni a’r teuluoedd sy’n parhau i feddwl amdanom ac yn dewis cefnogi’r SCBU yn Hywel Dda.

“Diolch am eich holl ymdrechion codi arian gan y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i barhau i ofalu am y babanod a’r teuluoedd, sydd angen ein cymorth a’n cefnogaeth. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, diolch yn fawr."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: