Neidio i'r prif gynnwy

Taith Tractorau'n Codi dros £2,000 ar gyfer Elusen GIG

Cododd Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth £2,165.47 i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) a Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Cynhaliwyd y taith tractorau ar 3ydd Rhagfyr 2022. Dechreuodd dros 30 o dractorau, corach ar gefn beic a Siôn Corn yn ei sled y daith ym Mhontyberem a theithio o gwmpas pentrefi lleol cymuned Cwm Gwendraeth.

Dywedodd Anwen Davies, un o drefnwyr y digwyddiad: “Cawsom ein syfrdanu gan y gefnogaeth ar y noson, roedd nifer y bobl ar ochr y ffordd yn chwifio yn anhygoel!

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd ac a helpodd i drefnu’r digwyddiad gan gynnwys y busnesau lleol a gefnogodd raglen y digwyddiad, Ysgol Pontyberem, y marsialiaid ac Anne ac Emily a gasglodd roddion ar hyd y daith.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Grŵp Taith Tractorau Cwm Gwendraeth am drefnu’r digwyddiad codi arian dros y Nadolig i gefnogi SCBU a Ward Cilgerran.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: