Neidio i'r prif gynnwy

Taith tractorau Nadolig yn codi dros £3,600 i ward plant

Yn y llun uchod: Anwen Davies a Nigel Davies gyda staff o Ward Cilgerran.

 

Mae Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth wedi codi £3,624 i Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Nigel Davies ac Anwen Davies, tad a merch o Bontyberem, drefnodd y daith tractorau Nadolig a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2024 ym Mhontyberem.

Dywedodd Anwen: “Fe wnaethon ni drefnu taith tractorau Nadolig lle cafodd y tractorau eu haddurno â goleuadau ac addurniadau Nadolig. Gwnaethom hefyd raglen lle’r oedd busnesau lleol yn ein cefnogi drwy roi hysbysebion i mewn.

“Roedden ni eisiau i’r plant lleol brofi rhywbeth hudolus wrth weld y tractorau wedi goleuo yn y nos yn teithio drwy bentrefi Cwm Gwendraeth gyda Siôn Corn yn mynd heibio i’w cartrefi.

“Cawsom amser gwych. Braf iawn oedd gweld wynebau’r plant yn llawn cyffro. Hoffem ddiolch i’r holl farsialiaid a roddodd o’u hamser i’n helpu, yr holl fusnesau lleol a gefnogodd drwy hysbysebu yn y rhaglen, a phawb a ddaeth allan i’n gweld ac a leiniodd strydoedd Cwm Gwendraeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i Anwen, Nigel a phawb a fu’n ymwneud â chefnogi Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: