Neidio i'r prif gynnwy

Taith gerdded noddedig yn codi £5,000 i Uned Gofal Dwys Glangwili

Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Lauren Lewis, Nyrs; Gillian Hall-Pritchard, Bethan Quinlan, Matthew Pritchard, Chloe Pritchard Andrew Quinlan a Carly Cogan, Prif Nyrs Iau.

 

Mae taith gerdded noddedig wedi codi £5,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Trefnodd Chloe Pritchard y daith gerdded o Gaffi T1 yn Llanelli i Borth Tywyn ac yn ôl eto er cof am ei chwaer, Debbie Hall Quinlan, i ddiolch am y gofal a gafodd yn yr ICU.

Dywedodd Chloe: “Cawsom ddiwrnod gwych yn cerdded o Lanelli i Borth Tywyn ac yn ôl eto ym mis Ebrill.

“Roedd gymaint o bresenoldeb gyda llawer o bobl yn cymryd rhan. Roedd ychydig o’r daith yn heriol gyda’r glaw, ond fe wnaethom ni cyrraedd y diwedd!

“Diolch i bawb a gymerodd ran, pawb a gyfrannodd, yr holl gwmnïau a noddodd wobr raffl, Morgan Marine o Landybie am gyfrannu £250, a Brecon Carreg am noddi’r dŵr.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: