Neidio i'r prif gynnwy

Taith gerdded noddedig a dringo mynydd yn codi £4,500 i Llwynhelyg

Yn y llun uchod: Victoria Wheatley, Ymgynghorydd Meddygaeth Liniarol; Gerald Rogers; Emma Callan, Uwch Brif Nyrs a Kayleigh Blyth, Ymarferydd Cynorthwyol.

 

Mae Gerald a Diane Rogers, o Saundersfoot, wedi codi £4,500 i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am eu merch, Julie Gwendoline Rose Rogers.

Cynhaliodd Mr. a Mrs. Rogers a'u teulu daith gerdded noddedig a dringo'r Wyddfa. Cododd Gerald arian hefyd drwy wisgo fel Siôn Corn am flynyddoedd lawer yn eu pentref lleol, Saundersfoot, gan ymweld â chartrefi gofal a digwyddiadau pentref.

Dywedodd Gerald: “Diolch i’r staff ar Ward 10 am y gofal gwych a gafodd ein merch, Julie. Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch a rhoi yn ôl i’r Ward oedd yn gofalu mor dda am Julie. Diolch i bawb a gyfrannodd hefyd, mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Gerald a Diane am godi swm gwych i Ward 10, mae’n deyrnged hyfryd i’w diweddar ferch, Julie. Bydd eich cefnogaeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion, teuluoedd a staff ar Ward 10.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: