Neidio i'r prif gynnwy

Taith gerdded arfordirol yn codi dros £2,500 ar gyfer gwasanaethau eiddilwch yn Llwynhelyg

Uchod: Maria Phillips, Lisa Marshall a Robert Campbell o dîm gwasanaethau eiddilwch Ysbyty Llwynhelyg

 

Mae tîm o staff ymroddedig o Llwynhelyg a’u ffrindiau a’u teulu wedi codi dros £2,500 ar gyfer gwasanaethau eiddilwch yn yr ysbyty drwy gwblhau taith gerdded noddedig.

Cerddodd y grŵp o staff o wasanaethau eiddilwch a’u cefnogwyr y 7.5 milltir odidog o Niwgwl i’r Aber Bach ar 1 Ebrill 2023.

Mae gwasanaethau eiddilwch wedi'u hanelu at wella bywydau pobl fregus, fel arfer yn hŷn.

Dywedodd Maria Phillips, Ymarferydd Cynorthwyol Therapi: “Roedd y daith gerdded arfordirol noddedig yn llwyddiant ysgubol. Cymerodd aelodau staff, teulu a ffrindiau ran ar ddiwrnod heulog a chawsant amser gwych!


“Mae’r daith gerdded a’r codi arian wedi rhoi hwb gwirioneddol i forâl staff ar draws y gwasanaethau eiddilwch ac roedd yn ymdrech tîm go iawn.”


Ychwanegodd Robert Campbell, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Fe wnaethon ni godi swm anhygoel o £2,560. Rydym mor falch ein bod wedi rhagori ar ein targed.

“Rydym yn falch o fod wedi trefnu taith gerdded mor llwyddiannus wrth weithio yn ein swyddi dydd prysur. Rydym hefyd yn falch o fod wedi codi arian ar gyfer y gwasanaethau eiddilwch a fydd o fudd i’r cleifion rydym yn gofalu amdanynt.”

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Lisa Marshall: “Rydym wedi dechrau gwneud cynlluniau ar sut i wario’r arian yn barod. Roeddem wrth ein bodd yn fawr iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ein digwyddiad codi arian nesaf!

“Diolch i’r holl staff, teulu a ffrindiau a gymerodd ran. A diolch hefyd i bawb a gyfrannodd gan gynnwys busnesau lleol a’r gymuned. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae codi arian i elusen y GIG yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd rydyn ni'n ei dderbyn.”

Dilynwch ni: