Neidio i'r prif gynnwy

Tad a merch yn cerdded 175 milltir ar gyfer gwasanaethau canser Sir Benfro

Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Angharad Smiriglia a'i thad, Geoffrey Eynon, Jenny James, Uwch Brif Nyrs, Ann Ritchie, Derbynnydd yr Uned a Debbie Holmes, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

 

Cerddodd Geoffrey Eynon ac Angharad Smiriglia (tad a merch) 175 milltir a chodi £2,775 i Wasanaethau Canser Sir Benfro.

Cerddodd y ddau am 70 diwrnod yn arwain at ben-blwydd Geoffrey yn 70 oed i goffau’r garreg filltir bwysig.

10 mlynedd yn ôl, cafodd Geoffrey ddiagnosis o chordoma, math prin iawn o ganser yr esgyrn sy'n effeithio ar un o bob 800,000 o bobl bob blwyddyn.

Dywedodd Geoffrey: “Ar ôl amryw o ymgynghoriadau ysbyty, sganiau a biopsïau, penderfynwyd tynnu’r tiwmor. Diolch byth fe wnes i wella’n llwyr ar ôl y llawdriniaeth ac rydw i wedi aros yn rhydd o’r afiechyd ers 10 mlynedd.”

Dywedodd Angharad: “Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gyda’r gefnogaeth a’r negeseuon o ewyllys da a anfonwyd atom yn ystod ein her. Roedd yn anodd ar rai dyddiau fynd allan mewn tywydd garw, ond fe helpodd y gefnogaeth a’r rhoddion ein gwthio ymlaen a chwblhau’r her.

“Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd a dweud diolch am bob dymuniad da a gawsom. Diolch yn arbennig i Katie yn y tîm codi arian am ei harweiniad a'i hanogaeth drwy gydol yr amser.

“Hoffem hefyd ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i bob gweithiwr proffesiynol a gefnogodd Dad ar ei daith ganser 10 mlynedd yn ôl, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, a’r rhai sy’n cysegru eu bywydau i gefnogi pobl ar eu teithiau canser. Rydym yn cysegru ein hymdrechion codi arian i chi i gyd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Geoffrey ac Angharad am eu rhodd garedig. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: