Neidio i'r prif gynnwy

Sut gwnaeth eich rhoddion wahaniaeth i dîm Ystadau Glangwili

Yn y llun: man gorffwys y tîm Ystadau wedi'i adfywio yn Ysbyty Glangwili.

 

Mae’r arian rydych chi’n ei roi ac yn ei godi ar gyfer eich elusen GIG – waeth pa mor fawr neu fach – yn cael effaith fawr ar fywydau cleifion, eu teuluoedd a staff. Yn ddiweddar, roeddem yn gallu defnyddio cronfeydd elusennol i drawsnewid mannau gorffwys ar gyfer staff ar draws y bwrdd iechyd i roi hwb gwirioneddol i’w lles.

Ar ddiwedd y pandemig COVID-19 roedd yn gynyddol amlwg bod angen mannau gorffwys ar gyfer staff sy'n profi blinder fel y gallent orffwys a gwella. Roedd hwn yn un o’r blaenoriaethau a nodwyd yn Adroddiad Darganfod y bwrdd iechyd a oedd â’r nod o ddeall yn well brofiadau staff yn sgil y pandemig.

Cododd NHS Charities Together, yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi elusennau’r GIG, £160 miliwn drwy gydol y pandemig, diolch i roddion hael a chefnogaeth gan y cyhoedd ledled y DU.

Defnyddiwyd cyllid grant Elusennau Gyda’n Gilydd y GIG i greu mannau gorffwys wedi’u hadfywio i staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn 2022-23, gwariwyd dros £200,000 o gronfeydd elusennol ar greu a gwella mannau gorffwys ar draws holl safleoedd y bwrdd iechyd yn y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dyrannwyd arian i bob Fforwm Partneriaeth Sirol, sy'n dod â chyflogwyr GIG Cymru a chyrff undebau llafur/proffesiynol ynghyd i wella gwasanaethau iechyd a gofal. Dyrannwyd y cyllid ar sail nifer y staff ym mhob sir, gyda phob Fforwm Partneriaeth yn cyflwyno cynigion ariannu yn amlinellu sut yr hoffent wario'r cyllid yn eu siroedd.

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Staff Partneriaeth Hywel Dda, Anthony Dean, cynrychiolydd Undeb Unite sy’n gweithio ym maes Ystadau: “Bu Fforwm Partneriaeth Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda’i gilydd i nodi timau a meysydd lle mae gwir angen ardaloedd gorffwys adfywiedig. Digwyddodd hyn ym mhob un o’r tair sir gyda’r nod o wneud gwahaniaeth i les cydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd."

Nodwyd y tîm Ystadau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin fel un o'r timau a fyddai'n elwa'n fawr o well man gorffwys, ynghyd â 38 o dimau eraill. Pan ofynnwyd iddynt sut roedden nhw’n teimlo am eu gofod ystafell staff yn ei gyflwr presennol, dywedodd aelodau’r tîm:

“Ddim yn addas i’r pwrpas.”

“Rwyf wedi gweithio yma ers 15 mlynedd a hanner ac nid wyf am ei ddefnyddio.”

Derbyniodd y tîm Ystadau arian i drawsnewid eu man gorffwys o le nad oedd neb eisiau ei ddefnyddio i ystafell y maent yn edrych ymlaen at ei defnyddio yn ystod amser egwyl, cyfarfodydd tîm a digwyddiadau.

Roedd gan y tîm Ystadau weledigaeth o’r hyn roedden nhw ei eisiau, gan gynnwys ei droi o ardal di-nod i’r chwith o’r gegin a oedd wedi’i chuddio gan ddrysau llithro yn unig. Gyda'r cyllid, roeddent yn gallu trosi'r gofod hwn yn gyfleuster toiled ac ystafell newid, gan ganiatáu ar gyfer loceri unigol i bob gweithiwr.

Roedd y cyllid yn golygu bod dodrefn ac eitemau newydd yn cael eu prynu ar gyfer y gofod, gan ei wneud yn amgylchedd llawer mwy deniadol a therapiwtig, gyda drysau, ffenestri a gwaith paent newydd yn dyrchafu'r gofod ymhellach. Roedd y man gorffwys gwell hefyd yn cynnwys wal goffa newydd wedi'i neilltuo ar gyfer y rhai y maent wedi'u colli, gan fod y tîm yn teimlo ei bod yn bwysig cael lle yn yr ystafell i hongian lluniau o gydweithwyr nad ydynt bellach gyda nhw yn anffodus.

Diolch i'r cyllid elusennol, mae'r tîm wedi gweld gwelliant amlwg mewn lles. Mae aelodau’r tîm yn adrodd bod y gofod wedi gwella “undod tîm” ac “iechyd meddwl” yn sylweddol, a’u bod yn mwynhau cael lle i ymlacio ynddo sy’n breifat ac ar wahân i’r rheolwyr.

Mae sylwadau ar y gofod newydd gan aelodau'r tîm yn cynnwys:


“Lle i bawb fwynhau.”

“Wrth fy modd.”

“Braf.”

“Llawer, llawer gwell!”

“Yn addas ar gyfer ein gweithlu cynyddol.”

“Rhywle y gallaf fynd i ddianc”

“Rhywle i dreulio amser gyda chydweithwyr.”

“Gofod diogel.”

 

Dywedodd un aelod o’r tîm: “Roedd yn rhaid i ni gael cyfarfodydd tîm i lawr yn yr iard o’r blaen, nawr mae’n bosibl eu cael yn yr ystafell a chael y 32 ohonom i eistedd. Desgiau newydd, cadeiriau newydd, dewison ni'r cynllun lliw i'w wneud yn pop - roedden ni eisiau ychydig o naws Premier Inn! Ffenestri newydd, drysau newydd. Daeth holl aelodau’r tîm ynghyd i greu gweledigaeth. Fe lwyddon ni hyd yn oed i uwchraddio offer trydanol yr 1980au – nawr mae gennym ni deledu arbennig ar y wal i’w fwynhau yn y cefndir a gwylio chwaraeon!”

Dilynwch ni: