Neidio i'r prif gynnwy

Stiliwr ymchwiliol newydd i gleifion gastroenteroleg

Uchod: Yn y llun, gwelir Prif Nyrs Iau Samantha Barrett gyda’r stiliwr newydd

 

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu stiliwr ymchwiliol newydd ar gyfer cleifion gastroenteroleg yn Ysbyty Glangwili.

Mae'r cit newydd, sy'n costio dros £4,600, yn stiliwr amledd is ar gyfer delweddu'r thoracs a'r abdomen.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ysbyty a’r ymgynghorydd cardiaidd Dr Eiry Edmunds: “Bydd y darn hwn o offer yn helpu i alluogi cleifion â phroblemau afu i gael unrhyw hylif abdomen cronedig wedi’i ddraenio’n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yn lleihau faint o amser sydd ganddynt i aros am y driniaeth hon.”

Ychwanegodd Prif Nyrs yr Uned Ddydd Feddygol, Dawn Tapp: “Ein diolch i bawb. Mae’r stiliwr yn bendant wedi gwella gofal cleifion yn yr Uned Gofal Brys ar yr Un Diwrnod a’r Uned Ddydd Feddygol.”

Yn y llun, gwelir Prif Nyrs Iau Samantha Barrett gyda’r stiliwr newydd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: