Neidio i'r prif gynnwy

Staff Ysbyty Tywysog Philip yn codi arian ar gyfer apel gerddi

Yn y Llun gwelir: staff Ward Bryngolau (Chwith) a Ward Mynydd Mawr (Dde)

 

Mae staff yn Ysbyty Tywysog Philip yn ymgymryd â nifer o heriau yn 2024 i helpu i godi £100,000 ar gyfer gerddi therapiwtig newydd yn yr ysbyty.

Nod Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip yw ariannu gerddi newydd i gleifion yn ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely.

Mae'r wardiau wedi'u lleoli drws nesaf i'w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i ofod awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw'r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw'n addas ar gyfer cleifion.

Dywedodd Lisa Howells, Gweinyddwr Ward Bryngolau: "Rwy'n falch iawn o fod yn Bencampwr Elusen Ward Bryngolau ar gyfer yr Apêl.

"Rwyf eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn ras 10k Llanelli ym mis Chwefror 2024 ynghyd ag aelodau eraill o'r tîm. Mae'n her fawr ond rwy'n edrych ymlaen at redeg ar hyd llwybr arfordirol y Mileniwm a gobeithio y byddaf yn gallu mwynhau'r golygfeydd hardd!

"Gan fod gan bob un ohonom lefelau ffitrwydd gwahanol a phatrymau sifftiau gwahanol, rydym yn mynd i weithio o amgylch ein rhestrau a chynllunio nosweithiau hyfforddi a phenwythnosau fel grwpiau.

"Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at hynny. Mae'n ffordd wych o adeiladu tîm y tu allan i'r gwaith, wrth godi arian ar gyfer ein gardd.

"Mae'r tîm hefyd wedi trefnu noson cyri ar gyfer mis Ionawr a fydd yn gyfle gwych i'n staff ymgysylltu â'i gilydd am yr Apêl a chael hwyl hefyd."

Yn y cyfamser, mae staff o Ward Mynydd Mawr hefyd wedi bod yn cynllunio eu codi arian.

Cymerodd grŵp o staff o'r ward ran yn 36ain Dip Blynyddol Parc Gwledig Pen-bre ar Ddydd San Steffan ar Draeth Cefn Sidan.

Dywedodd Tom James, Swyddog Cyswllt Teulu Mynydd Mawr: "Rwy'n cymryd rhan mewn ychydig o ddigwyddiadau i helpu i godi'r arian tuag at yr ardd ar dir Mynydd Mawr a fydd yn helpu i fod o fudd i'r cleifion mewn cymaint o ffyrdd.

"Cymerais ran yn y Dip Blynyddol a oedd yn llawer o hwyl, a byddaf hefyd yn cymryd rhan mewn naid am nawdd."

Dywedodd Katrina Williams, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: "Rydw i'n mynd i wneud naid am nawdd elusennol a byddaf yn helpu i drefnu nifer o ddigwyddiadau gwahanol gydag arian yn mynd tuag at yr Apêl.

"Mae'r gerddi'n arbennig o bwysig i'n cleifion sy'n treulio llawer o amser yn yr ysbyty. Bydd y gerddi'n helpu i'w hadsefydlu a'u cefnogi i fynd yn ôl ar eu traed."

Ychwanegodd Lisa: "Rydym yn gobeithio, gyda chymysgedd o heriau a digwyddiadau hwyliog, y gallwn wneud cyfraniad gwirioneddol i'r Apêl. Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi'r Apêl i gymryd rhan mewn unrhyw ffordd y gallant."

I gefnogi Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip, ewch i: Apel Gerddi Ysbyty Tywysog Philip - Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)

Dilynwch ni: