Mae staff o Ward Ystwyth, y ward strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais, yn dringo'r Wyddfa i godi arian ac ymwybyddiaeth o strôc.
Mae Nyrsys Staff, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Clerc y Ward, Prif Nyrsys Ward, Ffisiotherapyddion a Therapydd Galwedigaethol o’r ward, ynghyd â theulu a ffrindiau, yn dringo ar 1 Mehefin 2025.
Dywedodd Jackie Thomas, Clerc y Ward: “Rydym yn codi arian ar gyfer offer adsefydlu ar gyfer Ward Ystwyth ac yn rhoi rhodd i’r Gymdeithas Strôc.
“Rydym yn dymuno codi ymwybyddiaeth o strôc yn ein cymuned leol a pha mor bwysig yw hi i weithredu ar yr arwyddion cyntaf o strôc. Bydd yr arian a godir yn helpu gydag adferiad cleifion ac adsefydlu.
“Rwy'n gyffrous iawn am heddiw. Mae'r cyfeillgarwch yn y tîm yn wych ac yn gadarnhaol. Mae trafodaethau am ein cit, y tywydd a lefel ffitrwydd wedi dod â chwlwm hyfryd rhwng y tîm cyn gadael hyd yn oed.
“Y rheswm pam rydw i’n cymryd rhan yn Stride 4 Stroke yw oherwydd fy mod i wrth fy modd yn gweithio gyda’r tîm strôc, maen nhw’n angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud a chredaf fod angen i ni godi ymwybyddiaeth o strôc fel y bydd cleifion yn gweithredu ar HAST i geisio’r cymorth meddygol priodol a’u cefnogi yn eu hadsefydliad. Rydym am i’r gymuned wybod ein bod yno ar eu cyfer.”
Dywedodd Alison Wall, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: "Rwyf wedi gweithio yn yr Uned Strôc o'r diwrnod y dechreuodd. Rwy’n angerddol am ofal strôc a dyna pam yr wyf yn cymryd rhan yn Stride 4 Stroke. Bydd yr arian a godir ar gyfer offer adsefydlu yn newid bywydau ac rwy’n hapus i fod yn rhan o dîm mor wych.”
Dywedodd Cat Davies, Nyrs Brentis dan Hyfforddiant: “Rwy’n cymryd rhan yn Stride 4 Stroke i godi ymwybyddiaeth o strôc. Rwyf wedi bod yn gweithio ar yr Uned Strôc ers 2 flynedd. Rwyf bob amser wedi bod eisiau helpu’r rhai sydd wedi dioddef strôc a chynorthwyo gyda’u hadferiad yn dilyn strôc fy llystad rai blynyddoedd yn ôl. Cafodd driniaeth gan yr Uned Strôc Acíwt a derbyniodd ofal rhagorol.”
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff Ward Ystwyth am ddod ynghyd i ymgymryd â her mor wych i godi arian ac ymwybyddiaeth. Pob lwc i chi gyd!
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gyfrannu at y codwr arian, ewch i: https://www.justgiving.com/page/ystwyth-ward1