Neidio i'r prif gynnwy

Staff Bronglais yn codi dros £4,500 ar gyfer ward plant

Gwelir yn y llun (CH-Dd): Bethan Fitz Griffiths, Dirprwy Brif Nyrs; Rachel Davies, Dirprwy Brif Nyrs; Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs; Meinir Morris, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a Sian Davies, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

 

Mae staff o Ward Angharad, ward y plant yn Ysbyty Bronglais, wedi cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad i godi arian ar gyfer y Ward.

Cododd y tîm dros £4,500 a fydd yn mynd tuag at eitemau a fydd yn gwneud arhosiad y plant a'u teuluoedd ar y ward yn fwy cyfforddus.

Trefnodd Meinir Morris a Sian Davies ddigwyddiad codi arian disgo’r 60au, 70au a’r 80au a gynhaliwyd yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 28ain Hydref.

Cymerodd Bethan Fitz Griffiths a Rachel Davies ran yn Hanner Marathon Llanelli ar ddydd Sul 24ain Medi.

Dywedodd Meinir: “Mae Sian a minnau’n hynod o falch o’r arian a godwyd gennym yn trefnu’r disgo. Rydym wedi codi llawer mwy nag yr oeddem yn gobeithio amdano a chafodd pawb noson wych.

“Bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr i brofiad plant a’u teuluoedd sy’n mynychu Ward Angharad.”

Dywedodd Bethan: “Fe wnes i a Rachel fwynhau cymryd rhan yn yr hanner marathon yn fawr iawn. Mae’r gefnogaeth a gawsom yn anhygoel.

“Rydym eisiau dweud diolch enfawr i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at ein digwyddiadau.”

Dywedodd Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs: “Mae’r staff a fu’n rhan o’r ddau ddigwyddiad yma wedi rhoi Ward Angharad wrth galon eu gwaith codi arian ac mae hyn wedi dangos eu gwir dosturi ac ymroddiad tuag at y gwasanaeth, gyda’r nod o wneud gwahaniaeth i’r plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt.

“Rwy’n hynod falch fel rheolwr adrannol ward y plant ac estynnaf fy niolch o waelod calon i’r holl staff sydd wedi treulio amser yn codi arian i’r ward, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Am ymdrech tîm gwych gan staff Ward Angharad!

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: