Neidio i'r prif gynnwy

Siopau Co-op Llanelli yn cefnogi Elusen GIG

Yn y llun uchod: Staff y Co-op gyda Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 

Mae dwy siop Co-op yn Llanelli yn cefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, drwy Gronfa Gymunedol Leol y Co-op.

Mae Cronfa Gymunedol Leol Co-op yn cefnogi prosiectau ledled y DU sy’n golygu llawer i’w aelodau.  Mae'n gweithio mewn partneriaeth â miloedd o achosion lleol bob blwyddyn i'w helpu i godi cymaint o arian â phosibl.

Mae'r Co-op yn Felinfoel a'r Co-op yn Strade ill dau yn helpu i godi arian ar gyfer pecynnau lles a fydd yn cefnogi lles meddwl cleifion sy'n derbyn triniaeth gwrth-ganser yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Holly Thomas, Rheolwr Siop Felin-foel, a Katie Philips, Rheolwr Siop y Strade: “Rydym mor falch o fod yn cefnogi’r pecynnau lles i gleifion yn Ysbyty Tywysog Philip ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn y flwyddyn i ddod. . Mae’r pecynnau hyn yn dangos bod gweithredoedd bach o garedigrwydd yn cael effaith fawr.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Sir Gaerfyrddin: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu triniaethau gwrth-ganser o’n huned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

“Mae timau nyrsio arbenigol ymroddedig wedi dewis eitemau’n ofalus ar gyfer y pecynnau lles a fydd o fudd i les meddwl ein cleifion yn ystod ac ar ôl eu triniaethau a fydd yn helpu i leddfu rhai o’r sgîl-effeithiau anochel.

“Mae’r eitemau yn y pecynnau’n cynnwys hetiau, bandanas a chapiau i’r rhai sy’n colli gwallt, hufen dwylo a chorff, sanau a menig.

“Bydd y pecynnau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cleifion ac mae’n gyfle gwych i’n cwsmeriaid yn siopau Co-op lleol ddangos cefnogaeth i bobl yn ein cymuned sy’n mynd trwy driniaeth canser.”

Dysgwch fwy am gronfa Cymuned Leol y Co-op yma: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/support-us/donate-as-you-shop/

Dilynwch ni: