Neidio i'r prif gynnwy

Sioe wledig yn codi £8,000 ar gyfer offer arbenigol yn Uned Gofal Arbennig Babanod

Mae trefnwyr sioe amaethyddol flynyddol wedi rhoi’r holl elw o’u digwyddiad haf 2025 i uned newyddenedigol – gan godi swm anhygoel o £8,000 i’r achos.

Mae'r arian a godwyd o Sioe Cwmsychbant eleni – sioe amaethyddol wledig sydd wedi'i chynnal yn flynyddol ers 45 mlynedd yng Ngheredigion – wedi'i roi i'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glangwili.

Diolch i'w rhoddion hael, bydd yr uned yn gallu prynu darn arbenigol o offer a fydd yn helpu i oeri babanod sy'n cael eu geni ag anafiadau i'r ymennydd.

Penderfynodd trefnwyr y sioe godi arian ar ran Elusennau Iechyd Hywel Dda ac UGA Ysbyty Glangwili gan ei fod yn achos sy'n agos at eu calonnau. Treuliodd gor-wyres  y Llywydd y 30 diwrnod cyntaf o'i bywyd yn yr Uned ar ôl iddi gael ei geni dros wyth wythnos yn gynnar.

Dywedodd y trefnwyr:

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gofal a gafodd yno a hoffem roi rhywbeth yn ôl i'r uned i ddangos ein gwerthfawrogiad.”

Dywedodd, Sara Thomas, ei bod hi hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth yr uned.

Ychwanegodd:

“Rydym mor ddiolchgar am y gofal rhagorol a gafodd ein merch yn ystod ei hamser yn Uned Gofal Arbennig Glangwili. Roedd eich caredigrwydd, eich amynedd a’ch arbenigedd yn golygu’r byd i ni yn ystod cyfnod mor bryderus.

“Byddwn bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth a roesoch i’n merch fach ac am y sicrwydd a roesoch i ni fel rhieni.”

Dywedodd Kelly Brown, Arweinydd Allgymorth Newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili:

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o Sioe Cwmsychbant am eich codi arian gwych. Mae rhoddion yn hanfodol i’n helpu i wella ansawdd y gofal a’r profiad cyffredinol i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth yn ystod cyfnod mor dyngedfennol.

“Diolch i’ch rhodd, rydym yn gobeithio prynu darn arbenigol o offer sy’n ein galluogi i oeri babanod a aned ag anafiadau i’r ymennydd – ymyrraeth a all helpu i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’r rhai bach hyn.”

Ychwanegodd:

“Bydd gan eich cefnogaeth effaith barhaol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad i’n helpu i ddarparu’r safon uchaf o ofal nawr ac yn y dyfodol.”

Dilynwch ni: