Mae seiclwr o Geredigion wedi cwblhau taith seiclo noddedig anferth 100 milltir ar draws y sir i godi arian ar gyfer gwasanaeth diabetes.
Ymgymerodd Keith Henson â’r her seiclo ym mis Gorffennaf eleni i nodi 40 mlynedd o fod â diabetes Math 1 – ac i roi yn ôl i nyrsys diabetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Llongyfarchiadau i Keith, wrth iddo lwyddo i godi mwy na £1,600 at yr achos.
Ymunodd ffrindiau a theulu â Keith ar gyfer y daith noddedig o'r Borth i Genarth, lle ceisiodd basio'r rhan fwyaf o feddygfeydd ar y ffordd. Ar hyd y daith, roedd y seiclwyr yn ymweld â phentrefi a threfi fel Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron a Chei Newydd ac roeddent wedi stopio’n gyson i gael bwyd gan ffrindiau, teulu a staff Meddygfa Tanyfron yn Aberaeron.
Dywedodd: “Roedd yn her fawr seiclo 100 milltir o Borth i Genarth a 66 milltir o Aberystwyth i Genarth.”
Fodd bynnag, esboniodd Keith fod y tywydd yn braf a’i fod yn “reid bleserus mewn amodau da”.
“Hoffwn ddiolch i ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chyd-gynghorwyr, yn ogystal â staff y feddygfa yn Nhanyfron,” ychwanegodd.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y bwrdd iechyd: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Keith am ymgymryd â her mor epig i gefnogi’r gwasanaeth diabetes.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”