Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad y Merched Glanyfferi yn codi dros £2,500 ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod: Aelodau o Sefydliad y Merched Glanyfferi a staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi.

 

Mae aelodau o Sefydliad y Merched Glanyfferi (WI) wedi codi £2,540 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Sefydliad y Merched Glan-y-fferi, sydd â dros 30 o aelodau, yw grŵp hynaf Sefydliad y Merched yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddewison nhw'r uned fel eu helusen y flwyddyn gan fod un o’u haelodau, Brenda Morton-Roberts yn derbyn triniaeth yno ar hyn o bryd.

Dywedodd Brenda: “Mae pawb yn Sefydliad y Merched wedi cyfrannu’n aruthrol at wahanol agweddau. Codwyd yr arian drwy ein diwrnod merched blynyddol, bore coffi ac arwerthiant teganau a llyfrau yng ngharnifal Glanyfferi.

“Mae'r uned cemo yn hollol anhygoel. Maen nhw wir wedi edrych ar fy ôl ac wedi gofalu amdana i.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Brenda ac aelodau Sefydliad y Merched Glanyfferi am eu rhodd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: