Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion yn ariannu monitor dirlawnder ocsigen newydd ar gyfer Ysbyty Glangwili

Diolch i’r rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu monitor dirlawnder ocsigen gyda chwiliedydd clust ar gyfer tîm Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint (ILD) yn Ysbyty Glangwili.

Mae monitro dirlawnder ocsigen yn rhan allweddol o asesu cleifion ILD oherwydd gall y creithiau ar yr ysgyfaint ei gwneud yn anoddach i ocsigen symud ar draws y creithiau ac i mewn i'r ysgyfaint, yn enwedig wrth symud.

Ariannwyd y darn hwn o offer diolch i rodd hael gan Glwb Pêl-droed Felinfach er cof am gefnogwr lleol a fu farw yn anffodus o ILD.

Dywedodd Mair Evans, Trysorydd Clwb Pêl-droed Felinfach: “Roedd Clwb Pêl-droed Felinfach yn falch o godi arian i gyfrannu tuag at elusen werthfawr iawn er cof am aelod hoffus o’n cymuned.”

Dywedodd Melanie Jowitt, Nyrs Arbenigol ILD: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Glwb Pêl-droed Felinfach ac Elusennau Iechyd Hywel Dda am ein galluogi i brynu’r darn gwych hwn o offer.

“Bydd y darn newydd hwn o offer yn caniatáu asesiadau clinigol annibynnol a pellach o’n cleifion ILD.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: