Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn helpu i ariannu offer dadansoddi nwy meddygol newydd

Diolch i roddion elusennol, mae offer dadansoddi nwy meddygol gwerth dros £17,000 wedi'i brynu i'w ddefnyddio ar draws holl safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r offer newydd yn darparu'r profion mwyaf modern a thechnolegol o burdeb y nwyon meddygol a ddefnyddir ar gleifion mewnol ledled y bwrdd iechyd.

Mae'r offer yn galluogi gwasanaeth profi cyflymach a bydd yn lleihau'r amser y mae angen i staff ei dreulio ym mhob un o safleoedd profi Hywel Dda. Bydd hefyd yn fwy cost effeithiol ac yn darparu arbedion cost refeniw sylweddol oherwydd pris nwyddau traul a chostau cynnal a chadw blynyddol.

Dywedodd Jonathan Hughes, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Aseptig a Thechnegol: “Bydd offer dadansoddi nwy meddygol MGPS 1000 yn hynod fuddiol.

“Mae’r dechnoleg newydd hon yn cyfuno pum dadansoddwr nwy gwahanol yn un ddyfais gryno gan wella effeithlonrwydd y broses profi nwy a lleihau costau gwasanaethu yn ogystal â gwella ansawdd a chywirdeb data adroddiadau profion nwy.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: