Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr llygaid newydd ar gyfer Ysbyty Glangwili

Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Casey Griffiths, Uwch Brif Nyrs; Cerys Stacey, Nyrs Arbenigol Offthalmig;
Christian Jones, Nyrs Staff.

 

Diolch i roddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae sganiwr llygaid newydd gwerth £14,250 wedi'i brynu ar gyfer Ysbyty Glangwili.

Defnyddir y sganiwr newydd i gymryd mesuriadau llygaid cyn llawdriniaeth i sicrhau cywirdeb lensys a mewnblaniadau.

Bydd yr offer yn darparu lefel uwch o wasanaeth i gleifion yn ystod yr asesiad ymlaen llaw ar gyfer llawdriniaethau fel llawdriniaeth cataract, yn enwedig y rhai sy'n fregus ac yn llai symudol.

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs, Casey Griffiths: "Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i brynu'r sganiwr newydd.

"Mae Uned Llygaid Tysul o fudd gwirioneddol i gleifion sy'n llai symudol - er enghraifft, y rhai sydd â phroblemau gwddf a chefn - gan y gallen nhw ei chael hi'n anodd defnyddio'r offer safonol eistedd o fewn yr uned.

"Bydd y sganiwr newydd yn ein helpu i gynnal clinigau cyn-asesu mor effeithiol â phosibl ac yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i gleifion."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: