Yn y llun: Staff Hywel Dda gyda gwaith crefft wedi'i wneud gan gleifion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi darparu dros £60,000 o gyllid i gefnogi gweithgareddau celfyddydol rhyngweithiol ar gyfer cleifion mewnol â dementia ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bydd y cyllid yn darparu 364 o sesiynau ar draws saith lleoliad dros ddwy flynedd. Bydd y sesiynau hyn yn cyrraedd dros 2,500 o gleifion â dementia mewn Wardiau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn a Wardiau Eiddilwch Oedolion yn y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Arweinir y sesiynau gan artistiaid a cherddorion proffesiynol a byddant yn cael eu goruchwylio gan staff clinigol o bob ward. Mae amrywiaeth eang o sesiynau celfyddydol wedi’u dewis gyda gwahanol artistiaid a cherddorion yn cyflwyno gweithgareddau fel canu, symud, gwneud clai, peintio sidan, gwneud pom pom, tecstilau a gwneud printiau.
Mae’r rhaglen ddwy flynedd yn barhad o gynllun peilot llwyddiannus sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad cleifion, hwyliau a lefelau pryder.
Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i ariannu’r rhaglen gelfyddydau dwy flynedd.
“Dangosodd y rhaglen beilot botensial sylweddol ar gyfer gwella’r profiad a’r canlyniadau i gleifion mewnol dementia. Amlygwyd hyn gan yr adborth hynod gadarnhaol gan bawb sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.”
Ychwanegodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Dros Dro: “Mae darparu sesiynau celfyddydol fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol: mae’n tynnu sylw cleifion neu amser i ffwrdd o amgylchedd y ward, yn lleihau unigrwydd a diflastod, yn cynyddu rhyngweithio cymdeithasol, a yn gadael cleifion yn amlwg yn hapusach ac yn llai cynhyrfus. Mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar staff a theuluoedd cleifion.
“Rydym yn gyffrous iawn am gyflwyno’r rhaglen ddwy flynedd a gwella profiadau miloedd o gleifion ar draws y bwrdd iechyd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.