Yn y llun: Staff yng Ngorsaf Betrol Owen yn dal blychau casglu’r Apêl
Mae busnesau yn ardal Llanelli wedi casglu dros £1,000 ar gyfer Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip drwy arddangos blychau rhoddion ar eu heiddo.
Maen nhw'n ymuno yn yr ymdrech i godi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd i gleifion hŷn yn Ysbyty Tywysog Philip.
Nod yr Apêl yw ariannu gerddi newydd i gleifion ward Mynydd Mawr, sef uned 15 gwely sy’n rhoi gofal adfer i henoed, a ward Bryngolau, sef uned 15 gwely sy’n rhoi gofal iechyd meddwl i oedolion hŷn.
Mae'r wardiau wedi'u lleoli drws nesaf i'w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i ofod awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw'r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw'n addas ar gyfer cleifion.
Mae y Phil Bennett, Jennings Solicitors, y Royal Oak Felinfoel, Y Foel, y Reverend James, Fferyllfa Dafen, Dafen Stores a Swyddfa’r Post, Gorsaf Betrol Owens, siop Ysbyty Tywysog Philip a ffreutur Ysbyty Tywysog Philip i gyd wedi dangos eu cefnogaeth drwy arddangos y blychau casglu.
Dywedodd Darren Cross, Rheolwr y Phil Bennett, “Mae pob un ohonom yn frwd dros gefnogi achosion lleol. Rydyn ni’n meddwl bod Apêl Gerddi Tywysog Philip yn achos gwych y dylai pawb yn Llanelli ei gefnogi.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r holl fusnesau lleol sy’n arddangos blychau casglu, ac wrth gwrs eu cwsmeriaid a’u cleientiaid caredig. Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion, eu teuluoedd a staff Ysbyty Tywysog Philip.”
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r Apêl neu arddangos un o’r blychau casglu ffonio Claire Rumble, Swyddog Codi Arian, ar 01267 239815 neu anfon e-bost at fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk.