Mwynhaodd plant a gefnogir gan y Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig ddiwrnod allan yn yr awyr agored yn Folly Farm diolch i rodd hael i'n hymgyrch Cronfa Ddymuniadau.
Rhoddodd Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth £1,870 yn garedig i Ddiwrnod Nadolig i'r yn Folly Farm ar 29 Tachwedd 2025, a alluogodd blant sy'n derbyn gofal y GIG i fwynhau trip arbennig i'r parc antur a'r sw.
Cafodd plant, teuluoedd a staff o'r Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig fynediad i Folly Farm, mynediad i'r reidiau a thaleb pryd bwyd. Cymerasant ran hefyd mewn gweithgaredd addurno bara sinsir ar y diwrnod.
Dywedodd Rachel Harrison, Rheolwr a Chofrestrydd Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth ei bod yn "anrhydedd" gallu helpu elusennau a chymhellion lleol fel y Gronfa Ddymuniadau.
Dywedodd: "Mae gweld yn union ble mae'r arian yn mynd yn galonogol iawn. Mae'r gwaith y mae'r Gronfa Ddymuniadau yn ei wneud yn amhrisiadwy ac rydym yn gobeithio eu cynorthwyo eto yn y dyfodol."
Ychwanegodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Fynwent ac Amlosgfa Aberystwyth am eu rhodd hael. Diolch i’w cefnogaeth, roedd teuluoedd yn gallu mwynhau diwrnod gwirioneddol arbennig gyda’i gilydd, gan greu atgofion a fydd yn para am oes.
“Oherwydd cefnogwyr caredig fel y rhain y gallwn barhau i gynllunio’r profiadau ystyrlon hyn.”