Neidio i'r prif gynnwy

Rhedwyr yn codi dros £3,000 i Uned Gofal Cardiaidd

Yn y llun uchod (Ch-D): Gavin Gilman, Sam Faulkner, Gigi Tato, Prif Nyrs; Lucinda Jowett, Nyrs, a Michelle John, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

 

Rhedodd Sam Faulkner a Gavin Gilman y Great North Run ym mis Medi gan godi £3,730 ar gyfer yr Uned Gofal Cardiaidd (CCU) yn Ysbyty Llwynhelyg.

Cododd y pâr yr arian er cof am dad Sam a fu farw yn anffodus yn dilyn dau drawiad ar y galon ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Sam: “Roedd staff y ward mor wych ac amyneddgar gyda fy Nhad a oedd yn bryderus iawn am fod yn yr ysbyty. Roedden nhw’n wych gyda ni fel teulu yn ystod ei arhosiad yn CCU ac wrth drin y brofedigaeth ar ôl iddo farw.”

Dywedodd Gavin: “Roedd The Great North Run yn hynod heriol ac emosiynol. Roedd y diwrnod yn anodd ond roedd gwybod ein bod ni'n rhedeg ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ein helpu ni.

“Roedd y tywydd ar y diwrnod yn dda, tan y diwedd, ac roedd yn teimlo fel bod Newcastle i gyd allan yn ein cefnogi.

“Rydym yn falch o fod wedi codi cymaint ar gyfer yr Uned Gofal Cardiaidd yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'n arwydd bach o'n gwerthfawrogiad am y gofal rhagorol a roddwyd i Dad Sam yn ystod ei ddyddiau olaf. Mae wedi ein hysbrydoli i wneud mwy o waith codi arian i’r elusen yn y dyfodol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Sam a Gavin am eu gwaith codi arian anhygoel.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: