Mae codwr arian lleol wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Aeth Ceris Powell o Lanaman ati i redeg hanner marathon ym mis Hydref i godi arian ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Ymgymrodd Ceris â’r her i ddiolch i'r uned am y driniaeth y mae ei hewythr Lyndon wedi bod yn ei derbyn yno.
A llwyddodd i godi £700.
Er bod Ceris wedi cyfaddef bod yr hanner marathon wedi bod yn her, roedd yn werth chweil gallu cyfrannu at achos da a chodi arian ar gyfer yr uned, ychwanegodd.
Dywedodd: “Allwn ni ddim canmol y staff ddigon am y caredigrwydd, y gofal a'r tosturi a ddangoswyd i fy ewythr.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Allwn ni ddim diolch digon i Rhian a Ceris am eu cefnogaeth i'r uned ddydd cemotherapi. Mae eich ymdrechion yn golygu cymaint i ni.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”