Yn y llun uchod: Andrew gyda’i fab.
Roedd Andrew Gittins, saer coed hunangyflogedig o Aberystwyth, yn rhedeg o gwmpas trac un filltir am 24 awr gyda dim ond 30 munud o gwsg.
Rhedodd Andrew o amgylch caeau chwarae Blaendolau ar 7 Medi 2024 a chododd £7,750 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Andrew: “Penderfynais redeg o amgylch trac milltir Blaendolau am 24 awr. Fy nod personol oedd rhedeg 100 milltir, ond rhoddodd fy mhengliniau'r ffidil yn y to a dim ond 91 milltir y llwyddais.
“Roedd y gefnogaeth a gefais yn anghredadwy trwy gydol y penwythnos, wnes i ddim hyd yn oed redeg un lap ar fy mhen fy hun, hyd yn oed trwy gydol y nos.
“Roeddwn i eisiau codi arian i geisio helpu Uned Cemotherapi Bronglais a oedd yn hollol anhygoel wrth edrych ar ôl fy Mam tra’r oedd hi’n mynd trwy’r driniaeth ac o’r diwedd mae popeth yn glir”
“Aeth yn llawer gwell nag yr oeddwn yn meddwl y byddai, roedd yn hwyl o ystyried y boen wrth wneud yr un lap drosodd a throsodd. Mae gwybod y bydd yn helpu llawer o bobl, gobeithio, yn ei gwneud hi'n llawer haws i'w wneud ac anghofio'r boen.
“Fe wnes i fynd ati i godi £5,000 ond, yn y diwedd, codais £13,075.90 a fydd yn cael ei rannu rhwng yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais a Prostate Cancer UK. Diolch i bawb a gyfrannodd ac a helpodd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Waw, am her anhygoel. Diolch i Andrew am ymgymryd â'r digwyddiad codi arian syfrdanol hwn ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi ym Mronglais.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.