Neidio i'r prif gynnwy

Ras y Barcud Coch yn codi dros £6,000 i Ysbyty Bronglais

Yn y llun uchod (Ch-D): Cefn: Owain Schiavone, Nia Rees a Rhodri Ap Dyfrig gyda Nyrs Staff Adam Williams.

Blaen: Dic Evans, Sylfaenydd Ras y Barcud Coch.

 

Mae trefnwyr Ras y Barcud Coch wedi codi dros £6,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi a Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais.

Mae Ras y Barcud Coch yn ddigwyddiad rhedeg a cherdded blynyddol, a gynhelir ym Mhontarfynach a’r cyffiniau, yn Aberystwyth. Mae'n cael ei hadnabod fel un o'r rasys llwybr caletaf a mwyaf heriol yng Nghymru.

Cynhaliwyd y ras ar 28 Ebrill 2023.

Dywedodd Owain Schiavone, aelod o’r pwyllgor trefnu: “Aeth y codi arian yn dda iawn, er ei fod yn brosiect heriol. Mae trefnu unrhyw ddigwyddiad yn her, ac mae Her y Barcud Coch yn ddigwyddiad mawr yn y calendr chwaraeon ac athletau, ar ben bod yn ddigwyddiad codi arian.

“Ar ben hyn, mae yna lawer o gostau yn gysylltiedig â chynnal digwyddiad fel hwn felly

bu'n rhaid galw llawer o ffafrau a dod o hyd i noddwyr corfforaethol i dalu am y rhain a sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd yr elusen.

“Fel pwyllgor, rydyn ni i gyd yn falch iawn o’n cyflawniadau. Nid yn unig o ran codi arian gwerthfawr, ond hefyd o ran codi ymwybyddiaeth o’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan y GIG a’r angen am gefnogaeth gyson gan gymunedau i helpu i gynnal yr ymdrechion.

“Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a fu’n rhan o drefnu’r digwyddiad, y tirfeddianwyr a ganiataodd i’r ras basio trwy eu tir, ein noddwyr digwyddiad, y cyfryngau a roddodd sylw i ni, y cymdeithasau athletau a phawb a helpodd mewn unrhyw ffordd. Diolch yn fawr wrth gwrs i holl aelodau’r pwyllgor a weithiodd mor galed ar y prosiect.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i drefnwyr Ras y Barcud Coch am gefnogi’r Uned Ddydd Cemotherapi a Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais ac am godi swm mor wych.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: