Neidio i'r prif gynnwy

Raffl yn codi dros £300 i uned cemo Glangwili

Yn y llun uchod: Hayley Gravell, Lowri Stevens a staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi.

 

Mae perchnogion siopau barbwr, Hayley Gravell a Lowri Stevens wedi codi swm gwych o £303 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Trefnodd y ddwy, sy'n gweithio yn The Barbers yn Heol Las, Caerfyrddin, raffl i godi'r arian i ddiolch am y gofal a gafodd Lowri yn yr uned.

Dywedodd Hayley a Lowri: “Fe wnaethon ni godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Glangwili oherwydd bod Lowri wedi derbyn cemo yno i drin canser y fron. Roeddem eisiau rhoi rhywbeth yn ôl”

“Digwyddodd y codi arian yn ein siop barbwr, fe ddechreuon ni ym mis Rhagfyr 2023 a pharhau i godi arian tan fis Mawrth.

“Roedd yn hwyl ac yn gwneud i ni deimlo’n dda ein bod ni’n gwneud rhywbeth gwerth chweil. Diolch i’n holl gwsmeriaid hael a gyfrannodd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: