Neidio i'r prif gynnwy

Pwll geni a arianwyd gan elusen ar gyfer uned famolaeth Bronglais yn agor yn swyddogol

Llun o staff a chynrychiolwyr CBLF gyda'r pwll newydd

 

Agorwyd pwll geni sefydlog newydd yn ward mamolaeth Gwenllian, Ysbyty Bronglais yn swyddogol ar Fai 9 2025.

Ariannwyd y pwll newydd, a gostiodd £21,629, gan roddion hael gan y gymuned leol.

Darparwyd £13,400 o'r cyllid gan Gynghrair Cyfeillion Bronglais, gyda'r gweddill yn cael ei ddarparu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mynychwyd yr agoriad gan Karen Jewell, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru. Hefyd yn bresennol roedd y tîm bydwreigiaeth uwch; Dana Scott, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ac Arweinydd Llywodraethu Proffesiynol, a Cerian Llewelyn, Pennaeth Bydwreigiaeth Dros Dro, y ddwy ohonynt yn eiriolwyr cryf dros hyrwyddo trochi mewn dŵr fel dewis i fenywod sy'n esgor.

Dywedodd Emma Booth, Bydwraig Arweiniol Glinigol a Gweithredol: “Rydym mor ddiolchgar bod cefnogaeth ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu'r pwll sefydlog.

“Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall trochi mewn dŵr ar gyfer esgor a genedigaeth leihau hyd y cyfnod esgor a'r angen am leddfu poen ffarmacolegol ac ymyrraeth geni. Gall hefyd helpu i ymlacio cyhyrau, hyrwyddo profiad geni tawelach, a darparu trosglwyddiad mwy ysgafn o'r groth i'r byd  i'r babi.

“Mae’r model sefydlog yn fwy cyfforddus ac eang na’r pwll pwmpiadwy a ddefnyddiwyd yn y ward o’r blaen, gan gynnig mwy o ryddid i symud yn y dŵr. Mae’r grisiau mynediad yn creu ffordd ddiogel a hawdd o fynd i mewn ac allan o’r pwll, ac mae’r goleuadau LED tanddwr yn darparu awyrgylch braf ac yn goleuo’r dŵr at ddibenion archwilio.

“Bydd y pwll yn gwella profiad y rhieni a’r staff yn fawr.”

Dywedodd Elinor Powell, Cadeirydd Cyfeillion Bronglais (CBLF): “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cyfrannu at y pwll geni a fydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i ward Gwenllian.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n haelodau CBLF a phawb sydd wedi rhoi”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: