Neidio i'r prif gynnwy

Prynwyd 16 o setiau teledu ar gyfer Llwynhelyg diolch i roddion elusennol

Yn y llun uchod: Staff o Adran Achosion Brys Llwynhelyg gydag un o'r setiau teledu.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu 16 set deledu gwerth dros £7,000 ar gyfer ystafelloedd cleifion yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dywedodd Jo Dyer, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu 16 o setiau teledu newydd ar gyfer yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg.

 “Y gobaith yw y bydd profiad cleifion yn cael ei wella trwy osod y setiau teledu newydd yn ystafelloedd cleifion yn ogystal â helpu i’w gwneud yn fwy cyfforddus yn ystod eu hamser yn yr adran.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: