Yn y llun uchod: Jason Richards, perchennog Garej Ystwyth a Sophia Evans, cyfarwyddwr MP Evans Plumbing LTD
Mae Jason Richards a Sophia Evans yn cymryd rhan yn Her y Tri Chopa Cenedlaethol i godi arian i Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais.
Mae Ward Meurig yn arbenigo mewn gofalu am gleifion canser ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i'r gymuned leol.
Bydd y pâr yn cwblhau'r heic 23 milltir, esgyniad 3064m, a thaith 462 milltir rhyngddynt, mewn dim ond 24 awr ar ddydd Gwener 11 Awst.
Dywedodd Sophia: “Byddwn yn dringo mynyddoedd uchaf Cymru, Lloegr a’r Alban.
“Er gwaethaf hyfforddi’n galed a theimlo’n bositif am yr her, nid yw’r naill na’r llall ohonom yn ddringwyr profiadol, felly heb os byddwn yn cael ein profi i’r eithaf. Rydym yn hyfforddi o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu, sydd wedi golygu dechrau’n gynnar a nosweithiau hwyr i gyrraedd y milltiroedd cyn y digwyddiad.”