Neidio i'r prif gynnwy

Noson swper Sioe Llanddarog yn codi £3,000 i adran dermatoleg Ysbyty Tywysog Philip

Mae codwr arian a oedd eisiau rhoi yn ôl i adran ysbyty Hywel Dda wedi codi miloedd o bunnoedd i'w helusen leol yn y GIG.

Roedd Julie Standeven, Llywydd Sioe Llanddarog, eisiau diolch i'r adran dermatoleg yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, am y gofal a gafodd fel claf.

Llwyddodd pwyllgor Sioe Llanddarog i godi cyfanswm o £3,000 i'r ward drwy gynnal noson swper Sain y 70au ym mis Hydref.

Cynhaliwyd y noson swper yn neuadd bentref Llanddarog, ac anogwyd unrhyw un a oedd yn bresennol i wisgo gwisg ffansi.

Yna rhannwyd yr holl elw o'r noson rhwng Sioe Llanddarog a'r adran dermatoleg.

Dywedodd Julie ei bod yn ddiolchgar i adran dermatoleg Ysbyty Tywysog Philip ac i'r rhai a ddaeth i'w chefnogi yn y digwyddiad.

Eglurodd: "Fel teulu rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl ofal a chefnogaeth rydw i wedi'i dderbyn o'm apwyntiad cyntaf ym mis Mawrth 2023.

"Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gefnogodd a chyfrannodd yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Llanddarog."

Dywedodd Ceri Wisdom, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth: "Ar ran yr adran dermatoleg, rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr amser, yr egni a'r tosturi rydych chi i gyd wedi'u rhoi i'r codi arian hwn a hoffem fynegi ein diolch o galon.

"Mae eich caredigrwydd a'ch ymroddiad yn golygu llawer iawn a bydd eich cefnogaeth yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud bob dydd, trwy wella profiad cleifion a gwella llwybrau cleifion."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhrair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: