Yn y llun uchod: Meinir, Rhian, Meriel, Neris, Wendy, Audrey, Eivian, Jean, Nerys, Bet, Alwena, Davina, Ann a Bethan o Glwb Gwawr y Gwenoliaid.
Trefnodd Clwb Gwawr y Gwenoliaid gwis, canapes a noson coctels a chodwyd £400 i Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Cangen o Ferched y Wawr yn ardal Mydroilyn, Llanarth yw Clwb Gwawr y Gwenoliaid.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Mydroilyn ar 17 Chwefror 2023.
Dywedodd Meinir Owens Jones, Aelod o Glwb Gwawr y Gwenoliaid: “Roedd hi’n noson hwyliog yn y neuadd, gyda bwyd diddorol iawn, amrywiaeth o ganapes a phedwar coctel gwahanol.
“Mae sawl aelod o’r gangen wedi dioddef o ganser y fron, felly fe benderfynon ni gefnogi’r uned cemotherapi yn ein hysbyty lleol.
“Daeth sawl Clwb Gwawr arall i ymuno â ni a chodwyd swm o £400 ar y noson.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”