Neidio i'r prif gynnwy

Naid am Nawdd er budd eich elusen GIG

Yn y llun uchod gwelir : Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl cwblhau eu naid am nawdd

 

Mewn partneriaeth â Skyline Events, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cynnig cyfle i gefnogwyr blymio o'r awyr o unrhyw faes awyr cymwys mewn partneriaeth â Skyline Events. Mae hyn yn cynnwys 20 maes awyr ar draws y DU (gan gynnwys Abertawe).

Gall codwyr arian gymryd rhan yn y digwyddiad unrhyw adeg o'r flwyddyn a gallant ddewis dyddiad sy'n addas iddyn nhw!

Y cyfan y mae'r elusen yn ei ofyn yw bod y rhai sy'n cymryd rhan yn codi o leiaf £395 mewn nawdd erbyn amser y naid i gael awyrblymio am ddim. Gallant ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol neu godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol.

Mae’n rhaid bod yn 16, a rhaid i rai dan 18 oed fod ag oedolyn sy'n cymryd rhan gyda nhw.

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn gyffrous iawn am ein partneriaeth newydd gyda Skyline Events. Rydyn ni'n meddwl y bydd yn rhoi profiad gwirioneddol wefreiddiol i'n codwyr arian.

“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu diwrnod cofiadwy wrth godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol, beth am roi cynnig arni?”

Am ragor o wybodaeth ac i archebu ar-lein ewch i:  https://skylineevents.co.uk/events/charity-skydiving/

Dilynwch ni: