Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr ifanc yn gwau hetiau ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod

Yn y llun uchod: Y plant gyda'u tiwtor a rhieni gyda staff o'r Uned Gofal Arbennig Babanod.

 

Mae myfyrwyr Make it Happen Tutoring wedi gwau hetiau a'u rhoi i'r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae Make it Happen Tutoring yn fusnes tiwtora preifat sy'n eiddo i Rachel Isaac sy'n cefnogi myfyrwyr sydd â diagnosis dyslecsia neu dueddiadau dyslecsia.

Dywedodd Rachel: “Dechreuodd y cyfan gyda myfyriwr ifanc a ddaeth i mewn un bore a dweud wrthyf nad oedd yn teimlo ei fod yn dda am wneud unrhyw beth - mae’r rhan fwyaf o’m myfyrwyr yn dod ataf i gael cymorth darllen, sillafu ac ysgrifennu. Mae gan fwyafrif ddiagnosis dyslecsia. Maen nhw'n dod ata i am gymorth ychwanegol er mwyn iddyn nhw allu dal i fyny â'u cyfoedion neu deimlo'n well amdanyn nhw eu hunain.

“Ar y diwrnod arbennig hwn, gwelodd y myfyriwr y peiriant gwau. Fy mhroses meddwl i oedd, pe gallai ddysgu ei ddefnyddio a gwneud rhywbeth defnyddiol, byddai'n gweld ei fod yn dda am wneud rhywbeth. Gwyliodd fi'n gweu'r het gyntaf gan ddefnyddio peiriant gwau bach. Cododd y sgil yn gyflym ac ymunodd y lleill, yn ystod eu gwersi unigol, wrth weld y pentwr o hetiau bach yn tyfu.

“Pan sylweddolon nhw y byddai’r hetiau bach yn ffitio babanod cynamserol, fe wnaethon nhw fy rhoi ar y dasg o ddod o hyd i ysbyty fyddai’n eu derbyn a’u defnyddio. Heriais bob myfyriwr i wneud cymaint o hetiau ag y gallent cyn dyddiad cau. Fe wnaethon nhw fy synnu i a'u rhieni gyda'r brwdfrydedd a'r ymdrech y gwnaeth pob un ohonynt.

“Eglurais y byddai’n gwneud yr hetiau’n werthfawr iawn i rieni pe byddent yn cael llythyr gan fyfyriwr pan fyddai’r hetiau’n cael eu trosglwyddo. Roedden nhw i gyd yn herio’r sialens ac yn herio sillafiadau yn eu llythyrau.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Rachel Isaac a’i myfyrwyr dawnus am wneud hetiau mor hyfryd ar gyfer y babanod cynamserol ar SCBU.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: