Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwraig o Sir Gaerfyrddin yn codi arian ar gyfer Canolfan Diabetes Glangwili

Yn y llun uchod: Lleucu a Cerys Evans.

 

Mae myfyrwraig gyfraith benderfynol yn paratoi ar gyfer her codi arian eithriadol er anrhydedd i'r ganolfan diabetes y mae ei theulu wedi dibynnu arni ers dros bedwar degawd.

Mae Cerys Mai Evans, o Saron, Sir Gaerfyrddin, yn cymryd rhan yn y ras feicio 112 milltir a marathon Cymru ym Mhenwythnos y Cwrs Hir 2026 i godi arian ar gyfer y Ganolfan Diabetes yn Ysbyty Glangwili.

Y Penwythnos Cwrs Hir, a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod o ddydd Gwener 26ain i ddydd Sul 28ain Mehefin 2026, yw'r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd.

Dywedodd Cerys: “Rwy’n codi arian ar gyfer y Ganolfan Ddiabetig yng Nglangwili oherwydd eu bod nhw wedi gofalu am fy Modryb a Mam ers 41 mlynedd. Cafodd y ddwy ohonyn nhw ddiagnosis o ddiabetes math 1 yn chwech oed ym 1985 a 1988. Cafodd fy chwaer iau, Lleucu, ddiagnosis hefyd yn 11 oed yn 2022.

“Yn anffodus, bu’n rhaid i fy modryb gael llawdriniaeth torri o dan y pen-glin ym mis Ionawr y llynedd oherwydd cymhlethdodau diabetes, ac mae fy mam hefyd yn dechrau gweld effeithiau’r cyflwr ar ei golwg. Rwyf am roi rhywbeth yn ôl i’r uned fel y gallant barhau i ddarparu gofal anhygoel i eraill sy’n byw gyda diabetes a helpu mwy o bobl i gael mynediad at dechnolegau diabetes newydd.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Rydym ni i gyd wedi ein hysbrydoli’n fawr gan ymgyrch codi arian Cerys. Rydym ni mor ddiolchgar ei bod hi’n troi profiad ei theulu yn rhywbeth a fydd yn helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gall cefnogwyr gyfrannu at ymgyrch codi arian Cerys yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/cerys-evans

Dilynwch ni: