Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Rachel Bran, Uwch Nyrs Uned SACT; Irene Thomas; Julie Voller, Nyrs Staff; Megan Richards; Daphne Evans a Ceris Jones, Ffisiolegydd Cardiaidd.
Mae Merched y Wawr Felinfach wedi cyfrannu £375 yr un i Uned Ddydd Cemotherapi ac Uned Gardioleg Ysbyty Bronglais.
I godi arian, agorodd Megan Richards, aelod o Ferched y Wawr Felinfach, ei chartref a gwneud pryd o fwyd i aelodau eraill y clwb.
Dywedodd Delyth Davies, Llywydd Merched y Wawr Felinfach: “Mae’r arian a roddwyd i’r ddwy uned yn werthfawrogiad o’u gwaith a’r gofal mae rhai o’r aelodau a’u teuluoedd yn ei dderbyn.
“Rydym fel cangen yn ddiolchgar iawn i Megan am ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i agor ei chartref i elusen.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd. rydyn ni'n ei dderbyn.”