Yn y llun gwelir: Helen John a’i ffrindiau gyda Saira Khawaja, Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol y Fron, a staff o Uned Gofal y Fron.
Trefnodd Menter y Mynydd gyngerdd gan grŵp gwerin adnabyddus, Mynediad am Ddim, a £2,500 i Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.
Mae Menter y Mynydd yn griw sydd wedi trefnu digwyddiadau Cymraeg yn y pentref, gan gynnwys Eisteddfod, ers dros 30 mlynedd.
Dywedodd Helen John, aelod o Fenter y Mynydd: “Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Mynydd y Garreg ddydd Gwener 18 Hydref 2024.
“Cafodd yr arian a godwyd o’r digwyddiad ei roi i’r Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip i ddiolch iddynt am eu gofal parhaus a’r driniaeth arbennig yr wyf wedi’i chael ers 2024.
“Diolch i deulu, ffrindiau a busnesau lleol am eu cymorth a’u rhoddion hael tuag at y noson. A diolch i Bwyllgor Neuadd Mynydd y Garreg a Chastell Howell am gyfrannu’r bwyd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i Fenter y Mynydd am drefnu digwyddiad mor hyfryd i godi arian ar gyfer Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.